cyflwynydd.
gohebydd.
Gyda dros 12 mlynedd o brofiad fel cyflwynydd a gohebydd teled, mae Owian wedi profi ei hun i fod yn gyfathrebwr hoffus a dilys. Ei mae ystod eang o ddiddordebau a gwybodaeth wedi rhoi'r hyblygrwydd iddo weithio ar ystod o raglenni.
Showreel & Clipiau
Owain Gwynedd Showreel (Sports)
BT Sport - European Champions Cup Highlights
General Showreel
Y Stori
Dechreuodd Owain ar ei yrfa cyflwyno fel cyflwynydd teledu plant yn 2010. Rhoddodd hyn y cyfle iddo gyflwyno teledu byw yn ddyddiol ac i ddatblygu ei sgiliau cyfweld gyda rhai o’r gwesteion caletaf – plant!
Manteisiodd yn gyflym ar y cyfleoedd a oedd yn cael eu cynnig iddo ac i ddilyn ei wir angerdd mewn chwaraeon. Fe wnaeth BBC Radio Cymru / Wales a Chlwb Rygbi, S4C gysylltu'n gyflym gyda'r cyn-chwaraewr rygbi a dyfarnwr a'i benodi fel gohebydd ar ddiwrnod gêm. Teithiodd ar draws Ewrop yn dilyn rhanbarthau rygbi Cymru a gweithiodd ar Gwpan Rygbi'r Byd 2015.
Mae Owain yn mwynhau'r bwrlwm mae'r byd teledu byw dyddiol yn ei gynnig. Pan gafodd gyfle yn 2015 i bontio o deledu plant i raglenni cylchgrawndyddiol Heno & Prynhawn Da, S4C roedd yn gyfle perffaith i barhau i ddatblygu ac esblygu fel cyflwynydd.
Ond sicrhaodd Owain ei fod yn parhau i weithio ym myd chwaraeon ar bob cyfle.
Yn 2016, roedd BT Sports ac ITV 2 yn cynnwys Owain ar eu rhestr o ohebwyr. Y cyntaf gyda'u rhaglen uchafbwyntiau Cwpan Pencampwyr Ewrop a'r olaf ar eu darllediadau uchafbwyntiau Cwpan Eingl Gymreig.
Ers 2018 mae wedi cyflwyno ac adrodd ar Bencampwriaeth Rygbi Unedig ar gyfer Premier Sports tra’n parhau i fod yn gyson ar amrywiaeth o raglenni chwaraeon ar S4C. O gwisfeistr y cwis chwaraeon difyr 'Gêm Gartre' i gyflwyno cystadleuaeth dyn cryfaf Cymru.
Un o uchafbwyntiau gyrfa Owain oedd pan gyflwynodd Cyfres y Cenhedloedd Amazon Prime Video. Ei set gyntaf o gemau rygbi rhyngwladol.